Sesiwn Flasu: Yr ydym yn deall bod llawer yn gallu teimlo yn bryderus am fod yn yr wenynfa, yn edrych i fewn i’r cychod hefo gwenyn yn hedfan o’i hamgylch. Felly, gwahoddir y rhai sydd a diddordeb i wario ychydig o oriau yn edrych trwy cwch gwenyn hefo gwenynwr profiadol. Mae Gwenynwyr Môn yn darparu siwt wenyna a menyg ar gyfer diogelwch. Yn ystod y sesiwn gellir gweld y rhannau amrywiol o gwch gwenyn, y celfi arbennigol ynghyd a’r mygwr. Gwahoddir i chi hefyd arsylwi ar ardaloedd gwahanol o’r cwch sydd yn cynnwys cyfnodau gwahanol ym mywyd y gwenyn. Mág (wyau, epil, a celloedd wedi ei capio,) gwenyn nyrsio, gwenyn gwarchodol, gwenyn fforio, a gobeithio y frenhines! Gellir hefyd gweld beth mae’r gwenyn yn ei fwyta; mȇl, neithdar a phaill. Bydd hefyd gyfle i gael gafael mewn ffram o fág a ffram o fȇl. Fel arfer bydd y sesiynau yma yn cael ei cynnal yng ngwenynfa Gwenynwyr Môn ym mis Medi.