
Mae Gwenynwyr Môn yn cael gwybod yn aml am bryfed sydd yn heidio
Gallwn ni ond rhoi cymorth pan fydd y broblem yn ymwneud hefo gwenyn mêl
Gellir cael mwy o wybodaeth ar y wefan ganlynol gan BeeCraft (www.bee-craft.com)
Cacwn
Camgymerir gwenyn mêl yn aml hefo cacwn. Ond maen’t yn fwy, yn fwy crwn ac yn flewog. Mae’r cacwn hefo amryw o streipiau lliwgar ar hyd ei cynffonau. Maent fel arfer y nythu yn y llawr, mewn compst, o dan “decking” ac mewn bocsiau adar.
Awgrym: Gadewch lonydd iddynt os yn bosib. Mae cacwn yn beilliwr pwysig, anaml y maent yn pigo ac y maent dan fygythiad o ddiflanu yn gyfangwbl. Bydd y cytref yn marw yn naturiol erbyn y gaeaf.
Ni gesglir cacwn gan wenynwyr.
Gwenyn Unig
Oes llawer o wenyn bychain yn dod allan o’r waliau neu tyllau bach yn y llawr? Oes ganddynt ben-ȏl brown-goch? Neu ydynt yn ddu? Gwenyn Unig ydi rhain
Awgrymiad: Gadwech lonydd iddynt os yn bosib. Maent yn ddiniwed a fel mae’r enw yn awgrymu maent yn byw ar ben eu hunain. Does ganddynt ddim ddiddordeb mewn pobl a dylir gadel iddynt fod.
Ni gesglir gwenyn unig gan wenynwyr.
Gwenyn Meirch
Ydi’r pryfun yn llyfn ac yn felyn hefo stribedi du? Ydi’r pryfun yn mynd a dod o dȏ eich tŷ? Ydi nhw yn dod fewn ac allan o nyth papur crwn? Oes nyth mewn cwt neu twll yn y llawr? Oes ganddynt su uchel? Ydynt yn mynd ar ȏl pethau melys? Gwenyn meirch yw rhain.
Awgrymiad. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan BWARS neu cysylltwch a gwasanaeth rheoli pla y cyngor.
Ni gesglir gwenyn meirch gan wenynwyr.
Cacynen Ewropeaidd
Ydi’r gwenyn yn fawr ac yn swnllyd? Ydi nhw’n ddu a brown a mymryn o oren? Yn byw yn y tȏ neu cwt? Oes ganddynt gynffon mawr cyrliog? Cacynen Ewropeaidd yw hwn.
Awgrymiad: Am fwy o wybodaeth ewch i wefan BWARS neu cysylltwch a gwasanaeth rheoli pla y cyngor.
Ni gesglir cacynen ewropeaidd gan wenynwyr.
Cacynen Asiaidd
Brown tywyll hefo corff melfedaidd a phen draw y coesau yn felyn? Un stribed felyn ar yr abdomen. Yn llai na’r gacynen ewropeaidd a fel arfer yn nythu mewn coed neu strwythyrau dynol. Dim ond wedi cael ei gweld llond llaw o weithiau yn y DU. Mae ei presenoldeb yn bryderys iawn i wenynwyr gan ei bod yn ymosod a hela y gwenyn. Maen’t yn gyffredin yn Ffrainc ac Ynysoedd y Sianel.
Awgrymiad: Os ydych yn gweld un mae’n orfodol i gysylltu hefo alert_nonnative@ceh.ac.uk
Gwenyn mêl
Mae gwenyn mêl yn fach ac yn amrywio mewn lliw o frown euraidd i bron yn ddu. Os ydych yn meddwl bod haid wedi nythu mewn strwythyr o adeilad e.e. simdde neu tu ôl i’r bondo, yna cliciwch yma oherwydd nid oes dim allwn ni ei wneud.
Os ydi’r haid yn yr ardd a heb fynd i fewn i strwythyr yna fe all gwenynwr lleol ei casglu.
Gwiriwch y map heidio isod lle gallwch ddarganfod y gwenynwr sydd fwyaf lleol i chi.
Map heidio
Cliciwch yma i darganfod y gwenynwr sydd fwyaf lleol i chi sydd yn fodlon casglu heidiau.