
Croeso i Gymdeithas Gwenynwyr Môn
Rydym yn gymdeithas gweithgar a chyfeillgar o wenynwyr ar Ynys Môn a Gogledd-orllewin Cymru. Mae ganddom raglen hyfforddi gefnogol iawn ar gyfer dechreuwyr.
Amdanom ni Gwenynwyr Môn
Sefydlwyd y gymdeithas ym 1925, bellach mae ganddom aelodaeth o dros 100 sydd yn cyfarfod yn fisol drwy gydol y flwyddyn. Mae ein cyfarfodydd yn agored i bawb. Mae Cymdeithas Gwenynwyr Mȏn yn aelod o Gymdeithas Gwenynwyr Cymru. Mae ganddom dim hyfforddi gweithgar iawn sydd yn darparu cyrsiau i ddechreuwyr ac i wellhȃwyr. Mae’r cwrs wedi sefydlu ar raglen ddysgu gyda chyfoedion “peer-to-peer” sydd yn rhoi anogaeth i ddechreuwyr ddatblygu sgiliau cadw gwenyn.
Fel cymdeithas rydym yn blaenori ein gwenyn sydd wedi addasu ac esblygu yn lleol; sef y gwenyn du Cymreig, dros wenyn sydd wedi ei addasu ar gyfer hinsawdd mwyn.
YR YDYM YN AWGRYMU YN GRYF I BEIDIO MEWNFORIO AC AMLHAU GWENYN NAD YW YN LLEOL (e.e BUCKFAST NEU CARNIOLAN) OHERWYDD Y POTENSIAL O GYFLWYNO AFIECHYDON AR YR YNYS A EPIL HEIDIAU YMOSODOL.
Fel cymdeithas yr ydym yn gwasanaethu Ynys Môn a’r tir mawr cysylltiedig o fewn 20 milltir. Mae hyn yn cynnwys Bangor a Chaernarfon.
Lle gallwch ddod o hyd i Wenynwyr Mȏn?
Yr ydym yn cyfarfod yn neuadd bentref Rhosmeirch am ddarlithoeth a sgyrsiau. Mae Rhosmeirch ar yr B5111. Gadewch Llangefni gan ddilyn arwyddion am oriel Ynys Mȏn. Ar ôl milltir byddwch yn cyrraedd pentref Rhosmeirch. Mae’r lȏn yn troi i’r chwith a fe welch droead i’r dde wrth flwch ffôn. Mae’r neuadd chwarter milltir i lawr y troead hwnnw i’r chwith. Cod post LL77 7SX.