Oes ganddo chi ddiddordeb mewn ymuno a Chymdeithas Gwenynwyr Mon?

Dyma beth yr ydym yn ei wneud!

Yr ydym yn cyfarfod yn rheolaidd ar ddydd mercher cyntaf y mis dros fisoedd yr hydref, gaeaf a’r gwanwyn. Dros yr haf yr ydym yn cael cyfarfod cymdeithasol dwy waith mewn gwenynfa un or aelodau.

Mae’r cyfarfodydd nos fercher yn cael ei cynnal yn neuadd bentref Rhosmeirch. Mae’r cyfarfodydd yn rhai anffurfiol a chymdeithasol. Bydd ystod eang o bynciau yn ymwneud a chadw gwenyn.

Mae ganddom dri dosbarth o aelodaeth:

Aelodaeth Llawn: ar gyfer rhywun sydd yn, neu ar fin dechrau cadw o leiaf un haid o wenyn ar Ynys Môn neu‘r ardal gyfagos. Yn ogystal â holl weithgareddau Gwenynwyr Môn mae aelodaeth yn cynnwys yswiriant trydydd person ac yswiriant atebolrwydd cynnyrch drwy Gymdeithas Gwenynwyr Cymru (CGC), copi o’r cylchgrawn chwarterol “Gwenynwr Cymru” ac yswiriant rhag afiechydon gwenyn (i fyny i dri cwch, ond gellir ymestyn i fwy). Pris Blynyddol Aelodaeth Llawn yw £21.

Aelodaeth Ddwbl: Ar gyfer dau berson sy’n rhannu’r un cyfeiriad ac yn cyd-gadw gwenyn ar Ynys Môn neu‘r ardal gyfagos h.y. Cyd-berchnogion o wenyn. Mae’r aelodaeth yn cyfrif fel un aelodaeth yng nghyd-destun hawliau pledleisio a’r manteision o aelodaeth CGYM a CGC h.y.um copi o’r cylchgrawn Gwenynwr Cymru. Pris Aelodaeth Ddwbl yw £29.

Aelodaeth Gyswllt: ar gyfer pobl nad ydynt yn cadw gwenyn ond sydd â diddordeb mewn gwenyn a gwenyna ar Ynys Môn neu‘r ardal gyfagos. Mae croeso iddynt yng nghyfarfodydd CGYM ond nid ydynt yn elwa o fanteision aelodaeth CGC. Pris Aelodaeth Gyswllt yw £5.